·         Pa heriau y mae’r gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn eu hachosi i ddarpariaeth awdurdodau lleol o ran y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg?

Mae angen cyd-weithio i  greu’r galw am addysg Gymraeg ar draws cymunedau Cymru.  Gan gydnabod pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar i  ‘greu’ siaradwyr Cymraeg newydd, teimlwn fod angen ymgyrch cenedlaethol i hyrwyddo’r manteision hyn i bob rhiant newydd a darpar riant yng Nghymru.   Bydd hefyd angen sicrhau datblygu darpariaeth  gofal ac addysg blynyddoedd cynnar (yn ogystal ag ysgolion) yn lleol i bob cymuned, gan adeiladu ymhellach ar y cynllun Sefydlu a Symud presennol.  Mae data’r Cyfrifiad yn amlygu’r angen i fuddsoddi ymhellach yng ngwaith Mudiad Meithrin ac i ystyried y berthynas rhwng y Mudiad a gwneuthurwyr polisi o fewn yr Awdurdodau Lleol.

·         Pa heriau sydd o’n blaenau wrth gynllunio a datblygu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yng ngoleuni data y Cyfrifiad, ac yn fwy penodol, yr her o sicrhau bod disgyblion yn y sector cyfrwng Saesneg yn rhugl wrth iddynt adael yr ysgol?

Mae sicrhau cyflenwad digonol o ymarferwyr sydd yn meddu ar y sgiliau proffesiynol angenrheidiol ynghyd â sgiliau Cymraeg o’r safon uchaf posib i’r gweithlu Gofal Plant, Blynyddoedd Cynnar a Gwaith Chwarae yn greiddiol i ddarpariaeth ddigonol o leoliadau a llefydd blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru, yn ogystal â’r gweithlu ysgolion angenrheidiol.  Rhaid sicrhau cynllunio er mwyn peidio â cholli momentwm o’r groesffordd dyngedfennol hon.  

Bydd angen cynnal awdit sgiliau Cymraeg ar gyfer holl staff sydd yn gweithio ac yn cefnogi ysgolion a lleoliadau addysg a gofal blynyddoedd cynnar, yn y sector cyfrwng Saesneg ac yn y sector cyfrwng Cymraeg.  Dyma fydd yn rhoi cyfle i  adnabod ble mae’r gallu i weithio yn y Gymraeg, a ble mae angen buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol er mwyn galluogi holl staff ysgolion a lleoliadau addysg a gofal blynyddoedd cynnar i wneud hyn.  

Fe ddylai’r Fframwaith Cymraeg ar gyfer lleoliadau Cyfrwng Saesneg gael effaith gadarnhaol ar ddefnydd y Gymraeg mewn lleoliadau a ffrydiau cyfrwng Saesneg.  Serch hynny, rhaid sicrhau cyflwyno’r fframwaith i athrawon, ymarferwyr blynyddoedd cynnar ac eraill mewn ffordd sydd yn annog gweledigaeth o’r effeithiau cadarnhaol, ac yn lleihau i’r eithaf unrhyw deimladau negyddol gall fod ganddynt am gyflwyno’r Gymraeg yn llorweddol ar draws profiadau eraill y cwricwlwm ac nid yn unig fel sesiynau / gwersi penodedig. Rhaid i gyfleon dysgu proffesiynol athrawon ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar gyfoethogi ac atgyfnerthu’r weledigaeth hon gan ystyried sut mae hyrwyddo gyrfa cyfrwng Cymraeg i staff sydd heddiw yn y sector Saesneg. Wele syniadau yn nogfen y Mudiad, ‘Grym ein Gweithlu’.

 

·         Pa ystyriaethau ariannu a allai fod yn angenrheidiol yn y dyfodol i gefnogi datblygiad y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn llawn, o ystyried y gostyngiad yn nifer siaradwyr Cymraeg?

Bydd angen cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol pwrpasol i athrawon, ymarferwyr blynyddoedd cynnar ac eraill i gefnogi datblygiad y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn llawn ac fel ffordd effeithiol o gefnogi cynnydd dysgwyr yn y Gymraeg.  Gallai hyn gynnwys darparu sesiynau pwrpasol ar gyfer athrawon, ymarferwyr blynyddoedd cynnar ac eraill o fewn camau cynnydd a sectorau gwahanol er mwyn rhoi cyfle iddynt drafod ac ystyried enghreifftiau.  Dylid edrych ar syniadau fel rhoi cydnabyddiaeth ariannol ychwanegol i staff sy’n gweithio ym maes y Gymraeg Bydd hefyd angen ystyried sut y mae’n cyd-fynd gyda chynllunio er mwyn sicrhau bod datblygu sgiliau Cymraeg y dysgwyr yn rhan annatod o’r ddarpariaeth sydd yn cael ei gynllunio a’i ddarparu mewn ffordd sy’n cydnabod pwysau presennol ar y sector h.y. yr her o gyflenwi staff “banc” i ryddhau staff.

Byddai buddsoddiad ychwanegol mewn cynlluniau i hybu a hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar megis Cymraeg i Blant, Clwb Cwtsh, Camau a Chroesi’r Bont (cynllun sydd â’r nod o hwyluso pontio ieithyddol rhwng lleoliadau trochi cynnar (e.e. Cylchoedd Meithrin) a’r ysgol Gymraeg lleol) rôl glir i’w chwarae yn y dyfodol gan nodi fod y Mudiad ei hun bellach yn profi her wrth benodi staff i swyddi o’r fath oherwydd diffyg ymgeiswyr.